Mae dau atyniad yng Ngheredigion wedi ennill Gwobr Travellers’ Choice ar gyfer 2021.
Fe wnaeth Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi ddal eu gafael ar y wobr gan wefan TripAdvisor eleni, ar ôl ennill y llynedd.
Caiff y 10% o leoliadau sydd â’r adolygiadau mwyaf cadarnhaol gan ymwelwyr ar y wefan eu cydnabod gan y gwobrau.
Mae Bwlch Nant yr Arian ger Ponterwyd yn adnabyddus am ei thraddodiad hirsefydlog o fwydo barcutiaid coch bob dydd ac am ei llwybrau beicio mynydd.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, Ynyslas, yn gartref i nifer amrywiol o rywogaethau – llawer ohonyn nhw’n rhai prin ac yn unigryw i’r warchodfa – yn ogystal â thirweddau sydd o ddiddordeb rhyngwladol.
‘Lleoedd arbennig iawn’
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n rhedeg y ddau safle yng ngogledd Ceredigion.
“Mae derbyn y gwobrwyon yn dangos bod Canolfan Ymwelwyr Coedwig Bwlch Nant yr Arian a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas yn lleoedd arbennig iawn sy’n dod â llawenydd i’w hymwelwyr,” meddai Jenn Jones, Arweinydd Tîm y Canolfannau Ymwelwyr.
“Mae hefyd yn adlewyrchu’r gwaith caled y mae ein timau wedi’i wneud yn y ddau leoliad.
“Rwy’n arbennig o ddiolchgar iddynt am y ffordd y maent wedi mynd ati i wneud eu gwaith yng nghyd-destun y pandemig coronafeirws.”