Mae Dŵr Cymru’n bwriadu buddsoddi £3.7m i wella systemau dŵr gwastraff yng nghanol tref Aberteifi.

Byddai hynny’n lleihau’r perygl o lifogydd sy’n cynnwys carthion a slwtsh yn yr ardal.

Yn rhan o’r cynllun, byddai 250 metr o bibellau dŵr newydd yn cael eu gosod yn y rhwydwaith o dan ganol y dref.

Maen nhw hefyd eisiau adeiladu gorsaf bwmpio newydd yn y maes parcio o flaen Gwesty’r Angel.

Byddai’r gwaith yn debygol o effeithio ar strydoedd yn cynnwys y Strand, Carrier’s Lane, Stryd y Santes Fair a Stryd Morgan.

Bydd ymgynghoriad â’r cyhoedd yn cael ei gynnal rhwng Medi 13 a 26, ac mae Dŵr Cymru’n gobeithio gallu dechrau’r gwaith fis Hydref eleni a’i gwblhau o fewn naw mis.

“Angenrheidiol”

Dywedodd Teresa O’Neill, rheolwr prosiect Dŵr Cymru, bod yr uwchraddio’n bwysig er y bydd traffig a cherddwyr yn cael eu heffeithio.

“Mae’r gwaith hwn yn angenrheidiol i helpu i leddfu llifogydd carthffosydd yn Aberteifi,” meddai.

“Rydym yn gwerthfawrogi y gall y math hwn o waith achosi rhywfaint o anghyfleustra, ond byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau hynny cymaint â phosib, ac rydym yn diolch i bobol ymlaen llaw am eu hamynedd.

“Hoffwn sicrhau ein cwsmeriaid y byddwn yn cyflawni popeth mor gyflym ac mor ddiogel ag y gallwn.

“Hoffem annog preswylwyr Aberteifi i fynychu ein digwyddiad gwybodaeth rithwir sy’n lansio ddydd Llun, Medi 13 am bythefnos i gael mwy o wybodaeth am ein gwaith.”

Mae modd canfod gwybodaeth am gynlluniau Dŵr Cymru drwy fynd i’r wefan cardigan-investment.virtual-engage.com

Hefyd, bydd sesiynau holi ac ateb yn cael eu cynnal yn rhithiol rhwng 16:00 ac 19:00 ddydd Mercher, Medi 15, ac rhwng 13:00 ac 15:00 ar ddydd Mawrth, Medi 21.