Mae Côr Dre yn paratoi ar gyfer eu hymarfer cyntaf ers dechrau’r pandemig.
Byddan nhw’n dod at ei gilydd heno (nos Iau, Medi 9) am 19:30 yng Nghapel Salem, Caernarfon.
Cafodd y côr ei sefydlu yn 2007 gan griw o bobol ifanc o’r ardal, ac ers hynny, maen nhw wedi cystadlu’n lleol, yn genedlaethol – drwy’r Eisteddfod a Chôr Cymru, a’n rhyngwladol – drwy’r Ŵyl Ban Geltaidd.
Roedd rhaid i’w hymarferion ddod i ben yn ystod y pandemig, er iddyn nhw allu cyfarfod yn gynharach eleni i gyd-ganu.
Ond heno, byddan nhw’n cynhesu tannau’r llais mewn ymarfer am y tro cyntaf ers mis Mawrth 2020.
‘Neis gallu mynd yn ôl’
Mae Jamie Dawes-Hughes, ysgrifennydd Côr Dre, yn ysu i gael mynd yn ôl i gapel Salem i ganu gyda’r côr unwaith eto.
“Dw i’n edrych ymlaen,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n grêt gallu canu efo ein gilydd eto, ond hefyd gallu canu dan do.”
Fe ddaeth y côr ynghyd yn y Gwanwyn i ganu tu allan i Glwb Rygbi Caernarfon.
“Roedd canu tu allan yn iawn, ond doedd o ddim yn ideal i glywed pawb arall,” meddai Jamie.
“Fydd hi’n neis gallu mynd yn ôl i’r capel heno yn sicr.”
‘Mor saff â phosib’
Gydag achosion Covid-19 yn parhau i fod yn uchel yng Nghymru, mae ailagor ac ailddechrau bywyd cymdeithasol arferol yn mynd i brofi’n anodd i rai sy’n bryderus.
Mae pwyllgor Côr Dre am sicrhau bod yr ymarferion mor ddiogel a chroesawgar â phosib, ac mae’n debyg y bydd lle i o gwmpas hanner cant o bobol fynychu’r ymarfer cyntaf.
“Mae pawb yn ymwybodol o risgiau’r feirws,” meddai Jamie.
“Fel pwyllgor, rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod yr ymarferion mor saff â phosib.
“Er enghraifft, rydyn ni wedi symud o’r festri i’r capel ei hun felly bydd hi’n bosib ymbellhau tra rydyn ni’n canu.
“Bydd pawb yn gwisgo masgiau wrth gyrraedd hefyd, a byddwn ni’n cymryd tymheredd.
“Wrth gwrs, rydyn ni wedi dweud wrth bawb os nad ydyn nhw’n teimlo’n hyderus bod hynny’n hollol ddealladwy.
“Mae dod yn ôl i’r bywyd arferol yn wahanol i bawb, a dydy pawb ddim ar yr un lefel o ran teimlo’n gyfforddus bod allan eto.”
Ar y gweill
Mae Côr Dre yn cynllunio ychydig o ddigwyddiadau ar gyfer diwedd y flwyddyn a thu hwnt.
“Mae’n siŵr fydd gennym ni ambell i ddigwyddiad o gwmpas y Nadolig, yn dibynnu lle ydyn ni efo’r pandemig,” meddai Jamie.
Bydd y côr yn gobeithio cystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd y flwyddyn nesaf yn Iwerddon os bydd hi’n cael ei chynnal fel arfer.
Maen nhw hefyd yn y broses o drefnu ambell i syrpreis ar gyfer y flwyddyn newydd, felly mae digonedd i bobol Caernarfon edrych ymlaen ato.