Mae’r Comisiwn Ffiniau wedi datgan cynlluniau newydd ar gyfer etholaethau Ceredigion.

Ni fydd y cynlluniau arfaethedig yn dod i rym tan y bydd ymgynghoriad gyda’r cyhoedd i ddechrau dros gyfnod o’r wyth wythnos nesaf.

Mae’r Comisiwn a nifer o’r pleidiau gan gynnwys Plaid Cymru a’r Blaid Lafur wedi erfyn ar i’r cyhoedd anfon eu barn atynt fel ei bod yn cael ei ystyried.

Byddai’r newidiadau ar draws Cymru yn golygu bod nifer y seddi o bosib yn gostwng o 40 i 32 yn San Steffan.

O dan y cynlluniau newydd, bydd gogledd sir Benfro, sy’n rhan o etholaeth Preseli Penfro ar hyn o bryd, yn cael ei ychwanegu at etholaeth Geredigion.

Yn dilyn hynny, byddai trefi fel Abergwaun a Thyddewi felly yn pleidleisio dros yr un ymgeiswyr â Borth ac Aberystwyth.

Byddai’r etholaeth honno yn un o’r rhai hiraf yng Nghymru, gydag 85 milltir yn rhannu pentref Glandyfi yng ngogledd Ceredigion â Thyddewi yn Sir Benfro.

Nododd Elin Jones, Aelod Plaid Cymru Ceredigion yn Senedd Cymru, ei bod hi’n “amhosib dychmygu canfaso na gwasanaethu ardal mor faith â hyna.”

Ben Lake, Plaid Cymru, yw’r aelod presennol yng Ngheredigion yn Senedd San Steffan.

Roedd Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn Senedd San Steffan, yn amau mai dyma oedd y “cam diweddaraf ar lwybr y Torïaid i gipio rheolaeth yn ôl i San Steffan a lleihau llais democrataidd Cymru.”

Os yw mapiau o wardiau cynghorau yn ddangosyddion, byddai ardaloedd yng ngogledd orllewin sir Benfro yn fwy tebygol o bleidleisio ar gyfer y Ceidwadwyr, tra bod ardaloedd ar y ffin â Cheredigion efo cynghorwyr Plaid Cymru.

Y Ceidwadwyr oedd yr ail blaid yng Ngheredigion yn Etholiad Cyffredinol 2019, ond roedd gan Ben Lake fwyafrif o dros 7,000 bryd hynny.