Mae Cyngor Ceredigion yn chwilio am gontractwyr i gynnal a chadw llwybrau cyhoeddus y sir.

Mae cynnal y llwybrau cyhoeddus yn ddibynnol ar amryw o gontractwyr allanol, a dyletswydd y cwmnïau hynny yw sicrhau bod yr isadeiledd yn addas a diogel i’r cyhoedd eu defnyddio.

Gall hyn gynnwys gwaith codi pontydd, gosod gatiau neu reoli llystyfiant.

“Mae hwn yn gyfle gwych i fod yn rhan o dîm gan sicrhau bod y llwybrau’n ddiogel ac yn bleserus i’n cerddwyr,” meddai’r Cynghorydd Rhodri Evans, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio.

Bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn rhithiol ar Orffennaf 22 ac Awst 18 i gontractwyr sydd â diddordeb, i gael dysgu mwy am y gwaith.

Am fwy o wybodaeth, neu i ddangos diddordeb mewn mynychu’r digwyddiadau, gallwch e-bostio: Ymholiadau.Caffael@ceredigion.gov.uk