Catrin Haf Jones sy’n adolygu llyfr newydd newyddiadurwr y Western Mail, Martin Shipton…

Mae Martin Shipton wedi rhyddhau llyfr newydd sy’n addo “codi’r llen” ar ddegawd cyntaf hanes y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r llyfr Poor Man’s Parliament yn rhannu ei rwystredigaeth gyda’r pleidiau, polisïau a phersonoliaethau sydd wrth y llyw.

Er ei fod yn datgan o’r dechrau ei fod yn “gadarn o blaid datganoli,” y diffyg datblygiad yng Nghaerdydd ers 1999 sy’n rhoi’r teitl, a’r prif thema, i’w lyfr newydd.

Mae Martin Shipton yn cyfleu’r gred fod y Cynulliad wedi methu a gwireddu gobeithion pleidleiswyr 1997 oherwydd bod tactegau gwleidyddol a phersonolaethau gwan wedi dal y broses yn ôl.

Un o’r tactegau hynny, meddai, oedd mynnu cynnal y refferendwm heddiw.

Yn ôl Martin Shipton, dyliai’r penderfyniad ym 1997 wedi bod yn ddigon i ni symud at bwerau deddfu llawn, a phetai angen refferendwm o gwbwl, dyliai hynny wedi bod cyn cyflwyno pwerau deddfu LCO.

Mae’n rhoi llawer o’r bai am gynnal y refferendwm ar y Blaid Lafur, ac yn enwedig Peter Hain, oedd yn “ceisio plesio dau garfan gwrthwynebus” trwy addo newid ar yr un llaw, ond nid heb broses hir a chymhleth.

Ond gyda’r refferendwm yn anochel, mae e’n argyhoeddiedig o’r angen i bleidleisio o blaid pwerau deddfu llawn.

Byddai maddeuant i’r darllenydd sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ystyried bod Martin Shipton yn gwrthddweud ei hun trwy feirniadu’r Cynulliad, tra’n galw am fwy o bwerau.

Ond mae dull annisgwyl o ymdrin â phwnc yn nodweddi Martin Shipton, fel awdur, a newyddiadurwr.

Enghraifft o hyn yw ymgais y newyddiadurwr i roi tân ym mol yr ymgyrch ‘Ie’ dros bwerau deddfu llawn, trwy berswadio’r ymgyrch ‘Na’ i ddechrau canfasio!

Degawd o gofnodi ac ysgogi…

Deg mlynedd o hunangofiant proffesiynnol yw ‘Poor Man’s Parliament’ i bob pwrpas, ac rydyn ni’n cael y teimlad fod Martin Shipton llawn cystal am ysgogi newyddion, ag yw am ei gofnodi.

Mae ei benderfyniad i sefyll fel ymgeisydd yn is-etholiad Ceredigion yn 2001, er mwyn tynnu sylw at sgandal arian Amcan Un, yn brawf o hynny.

Mae’r agwedd ymarferol hyn at ddigwyddiadau yn rhoi golwg newydd i ddarllenwyr ar ddegawd cyntaf y Cynulliad, ac mae’n llwyddo i drafod materion cymhleth – gan gynnwys cwestiwn y refferendwm ei hun – mewn modd dealladwy.

Does dim osgoi’r sylwadau treiddgar ar y personolaethau wrth y llyw chwaith, gydag ambell sgandal am Aelodau Cynulliad yn codi ei ben hefyd.

Mae’r arddull gronolegol o gyflwyno’r hanes yn gallu bod braidd yn herciog, gyda phenodau wedi eu rhannu’n flynyddoedd, sydd, gellir dadlau, yn ffordd sylfaenol iawn o ystyried hanes datganoli – sydd yn ôl y pensaer ei hun, Ron Davies, yn ‘broses yn hytrach na digwyddiad’.

Ond does dim gwadu bod y llyfr yn amserol. Mae’r cyfnod o 1999 i 2009 yn olrhain taith deng mlynedd y Cynulliad rhwng dau refferendwm

Ac ar drothwy’r refferendwm ar bwerau’r Cynulliad heddiw, mae e’n pwysleisio’i gred mai un o ddiffygion mwyaf y Cynulliad hyd yn hyn yw’r diffyg pwerau i ddeddfu’n llawn ac effeithlon dros Gymru.

“Mae gwleidyddiaeth ara’ deg,” meddai, “wedi gwneud niwed aruthrol i’r Cynulliad.”

Mae ‘Poor Man’s Parliament’ gan Martin Shipton ar werth nawr am £12.99, wedi ei gyhoeddi gan Seren.