Mae capten Caerdydd, Craig Bellamy wedi dweud mai ei fwriad yw sicrhau buddugoliaeth wrth ddychwelyd i Ffordd Carrow i herio Norwich yfory.

Ond mae’r Cymro yn ddiolchgar iawn i’r clwb lle ddechreuodd ar ei yrfa broffesiynol.

“Rwyf wedi bod ‘nôl yn Ffordd Carrow o’r blaen ar gyfer gêm gyfeillgar ac fe gefais groeso da. Rwy’n credu byddai’n cael croeso tebyg ar ddechrau’r gêm yfory, ond rwy’n gobeithio bydd hynny’n stopio wedyn,” meddai Bellamy.

“Rwyf am i gefnogwyr Norwich fy ngwawdio i oherwydd fe fydd hynny’n dangos fy mod i’n gwneud fy job i Gaerdydd”

“Ni fydd fy nheimladau at gefnogwyr Norwich yn newid hyd yn oed os fyddwn nhw’n fy sarhau ar y diwedd.”

Mae Bellamy wedi dweud ei fod yn hapus gyda’i berfformiadau diweddar i’r Adar Glas.
“Heb law am y gêm yn erbyn Dinas Bryste, ry’ ni wedi gwneud yn dda, yn enwedig yn erbyn Coventry a Leeds Utd”

“Dyna’r gorau i mi chwarae trwy’r tymor ac rwy’n edrych ‘mlaen i weddill y tymor.”

Cynnal perfformiadau’

Mae asgellwr Caerdydd, Chris Burke yn credu bod yr Adar Glas wedi dechrau perfformio’n dda unwaith eto wedi cyfnod digon anodd cyn y Nadolig.

“Ry’ ni wedi gwneud yn dda yn ein dwy gêm ddiweddaraf. Ry ni wedi gweithio’n galed i sicrhau’r canlyniadau yna ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n cynnal hynny”

Ond mae’r Albanwr yn ymwybodol bod tasg anodd yn wynebu Caerdydd, gyda Norwich yn perfformio’n dda iawn yn eu tymor cyntaf ‘nôl yn y Bencampwriaeth.

“Mae Norwich yn chwarae gyda thempo uchel ac yn croesi’n aml mewn i’r cwrt cosbi- maen nhw’n un o’r timau gorau ry’ ni wedi’i wynebu’r tymor hwn”

“Ond fe fyddwn ni’n mynd yno yn edrych am y pwyntiau llawn ac ry’ ni’n ffyddiog y gallwn ni wneud hynny.”