Mae llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud y bydd yn gadael ar ôl wyth mlynedd wrth y llyw er mwyn “rhoi cyfle i bobol ifanc”.
Dywedodd Gareth Vaughan, 69, o Ddolfor, y Drenewydd, Powys, y byddai’n parhau’n weithgar â’r undeb.
Fe fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd yng nghyfarfod cyffredinol yr undeb ym mis Mehefin. Mae wedi bod yn aelod o’r undeb ers 25 mlynedd.
“’Dw i wedi mwynhau ac wedi bod ar draws Gymru gyfan, canran o gyfandir Ewrop ac wedi cyfarfod pobl ddifyr,” meddai Gareth Vaughan, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru wrth Golwg360.
“Mae’r gwaith wedi bod yn anodd ar brydiau ond rydw i wedi mwynhau. Rydan ni wedi bod yn buddsoddi yn yr Undeb yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’r buddsoddiad hwnnw wedi dechrau dwyn ffrwyth.
“Dw i’n teimlo bod rhaid i ni symud ymlaen a rhoi cyfle i bobl ifanc,” meddai. “Fe fyddai’n 70 oed y flwyddyn yma.”
Dywedodd mai’r prif bwyslais i’r undeb yn y dyfodol agos fydd y Cynllun Taliad Sengl.
“Mae’n bwysig iawn bod y diwydiant yn cael setliad teg o Ewrop. Fe fydd hynny’n sialens ond mae yna lawer iawn o frwdfrydedd o fewn yr Undeb,” meddai.
Cefndir
Mae Gareth Vaughan yn ffermio defaid a gwartheg ar fferm Cwmyrhiwdre â’i wraig Audrey, a 12 mlynedd yn ôl ymunodd ei ferch Catherine a’i fab yng nghyfraith Brian â’r busnes.
Cafodd ei eni yn Llanidloes yn 1941, a mynychu Ysgol Gynradd Manledd ac Ysgol Uwchradd Llanidloes.
Roedd yn gadeirydd cangen y Drenewydd Undeb Amaethwyr Cymry yn 1988-89 a chadeirydd Sir Drefaldwyn rhwng 1991-1993.
Cafodd yn ethol yn aelod pwyllgor cyllid gogledd Cymru Undeb Amaethwyr Cymru yn 1998 cyn cael ei ethol yn is-lywydd yn 2000, dirprwy lywydd yn 2002 a llywydd yn 2003.
Cafodd wybod fis diwethaf y bydd yn cael ei wneud yn Aelod o’r Ymerodraeth Brydeinig gan y Frenhines.
Beth nesaf?
Yn ei amser hamdden, mae’n mwynhau “gweithio â chŵn defaid” ac yn gobeithio y caiff fwy o gyfle i “saethu colomennod clai a chwningod”.
“Bydd gen i fwy o amser i fod gyda fy ŵyrion hefyd,” meddai.