Mae Heddlu De Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl lladrad mewn tŷ yn Sain Ffagan, Caerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Roedd tri dyn yn rhan o’r lladrad yn Llewellyn Goch ar Ystâd Rhydlafar – fe wnaeth dau o’r dynion oedd yn gwisgo balaclafas guro’r drws gan orfodi’u hunain i mewn i’r tŷ sy’n eiddo i ddynes 74 blwydd oed. Fe wnaeth y dynion chwilio’r tŷ ond ni chafodd dim ei ddwyn yn y digwyddiad.

“Roedd y ddynes ar ei phen ei hun pan wthiodd y dynion eu ffordd i mewn ac er nad anafwyd y ddynes – roedd wedi’i hysgwyd ac mewn sioc,” meddai Chris Cullen o’r Heddlu.

Roedd y dynion yn defnyddio fan wen y noson honno ac mae’r Heddlu’n apelio ar unrhyw aelod o’r cyhoedd a welodd y cerbyd i gysylltu â nhw. Fan Renault Kangoo gwyn oedd y cerbyd – wedi’i ddwyn o ardal Canton, 30 Dachwedd.

Ychydig wedi’r digwyddiad, daeth yr Heddlu o hyd i’r fan wedi’i adael yn Church Road, ger bwyty De Courceys ym Mhentyrch. Roedd gan y fan rif cerbyd ffug arno a tho wedi rhydu.

Roedd un o’r dynion yn gwisgo cap pig du, siaced dywyll gyda dau stribed lachar i lawr y cefn ac roedd yn cario ffeil ddu.

“Rydyn ni’n apelio am wybodaeth am y digwyddiad yn arbennig am y fan a gafodd ei dwyn ym mis Tachwedd … Mae digwyddiadau o’r natur hwn yn brin iawn yng Nghaerdydd,” meddai Chris Cullen.

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu’r Heddlu ar 02920 528013 neu â Taclo’r Tacle’ ar 0800 555 111.