Mae cynghorydd blaenllaw wedi cefnu ar y Democratiaid Rhyddfrydol ac ymuno â’r Blaid Lafur am nad yw’n hapus â thro pedol ei gyn-blaid ar ffioedd myfyrwyr.
Cynghorydd yng Nghimla, Castell Nedd Port Talbot yw John Warman ac fe ymunodd â’r SDP yn yr 1980au.
Unodd yr SDP a’r Rhyddfrydwyr yn 1988 er mwyn ffurfio’r Democratiaid Rhyddfrydol.
Cyn ymuno â’r SDP roedd John Warman yn gynghorydd Llafur ers 1972. Mae’n dweud ei bod hi’n “teimlo’n dda cael dod adref i Lafur.”
Roedd yn Faer Castell Nedd rhwng 1988 a 89, gan gynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol.
“Roeddwn i yno pan ddaeth Nick Clegg i Abertawe a gwneud ei addewid ar ffioedd myfyrwyr,” meddai am addewid arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol i beidio a chefnogi codi ffioedd.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi bradychu’r addewid yna. Roedd yn addewid gwag. Fedra i ddim ymdopi â hynny.
“Doedd fy mhenderfyniad i ddim yn un hawdd, ond rwy’n teimlo nad oes dewis gen yn sgil gweithredoedd y glymblaid dan arweiniad y Ceidwadwyr.”
Croesawu
Mewn cynhadledd i’r wasg gan y Blaid Lafur, galwodd y Prif Weinidog Carwyn Jones, Aelod Cynulliad Castell Nedd, Gwenda Thomas ac Aelod Seneddol Castell Nedd, Peter Hain ar aelodau eraill o’r Democratiad Rhyddfrydol i ymuno â’r Blaid Lafur.
“Rydw i wrth fy modd bod John wedi gwneud y penderfyniad dewr yma ac rwy’n ei groesawu’n wresog i’r Blaid Lafur,” meddai Carwyn Jones.
“Mae’n wleidydd profiadol, uchel ei barch ac rwy’n gwybod y gwnaiff e gyfraniad ardderchog i’n Plaid ni yn y blynyddoedd sydd i ddod.”
Dywedodd Cadeirydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghastell Nedd ac Aberafan ei bod hi’n “drist” fod John Warman wedi dychwelyd at y blaid Lafur.
“Mae’r blaid Lafur wedi creu hafoc â economi Cymru,” meddai Helen Ceri-Clarke. “Mae John Warman yn mynd nôl i blaid sydd wedi dinistrio’n gwasanaeth iechyd ni a gwneud llanast o’n system addysg.
“Fe fydd pobol ei ward yn teimlo wedi eu siomi gan ei benderfyniad ond fe fydd y Cynghorydd Des Sparkes yn parhau i’w cynrychioli nhw ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.”