Mae gwyddonwyr yn cynnal profion genetig ar wiwerod coch Ynys Môn er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n mewnfridio.

Mae yna bryder bod y cymunedau bychan sy’n goroesi ar yr ynys yn tueddu i fewnfridio a bod hynny yn eu gwneud nhw’n agored i afiechydon.

Yn 2002 daeth i’r amlwg bod un cymuned ym Mhentraeth wedi mewnfridio. Ers hynny mae’r cadwraethwyr wedi creu cymunedau newydd yn Niwbwrch, Plas Newydd a Biwmares.

Mae samplau o flew 100 o wiwerod coch wedi eu casglu a’u hanfon i Brifysgol Caeredin am brofion.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion Wiwerod Coch Ynys Môn eu bod nhw wedi dod a gwiwerod i mewn o gymunedau eraill ar draws Prydain er mwyn sicrhau bod yna gymysgedd genetig.

Roedd y blew wedi ei gasglu o wiwerod coch marw a rhai oedd wedi mynd yn gaeth mewn trapiau wedi eu gosod er mwyn dal wiwerod llwyd, medden nhw.

Dim ond tua 150 o wiwerod coch sydd ar ôl ar Ynys Môn