Mae dynes yn honni bod Donald Duck wedi gafael ynddi mewn modd anweddus ym mharc antur Epcot, Florida.

Penderfynodd barnwr ffederal yn Philadelphia y bydd rhaid i gwmni Disney amddiffyn yr achos cyfreithiol gan April Magolon sy’n honni ei bod hi’n dioddef o bryder ôl-drawmatig.

Mae’r ddynes 27 oed o dalaith Pennsylvania yn honni bod aelod o’r staff oedd wedi ei wisgo fel Donald Duck wedi cydio yn ei bron ac yna jocian am y peth.

Mae April Magolon yn honni ei bod hi wedi dioddef o hunllefau, problemau treulio ac anafiadau parhaol yn sgil y digwyddiad ym mis Mai 2008.

Dywedodd yr amddiffyn bod April Magolon wedi siwio’r cwmni anghywir, ac roedden nhw wedi gofyn i’r barnwr wrthod yr achos llys neu ei symud i Florida.

Gwrthododd y barnwr a dweud y byddai April Magolon yn cael parhau â’r achos ym Mhennsylvania.