Mae arbenigwyr iechyd wedi rhybuddio y bydd yna “ail don” o ffliw wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol yn dilyn gwyliau’r Nadolig.
Mae’r ffliw eisoes wedi lladd 39 o bobol ym Mhrydain ers mis Hydref.
Dywedodd yr Athro John Oxford, arbenigwr ar firoleg o Ysbyty Brenhinol Llundain, bod nifer yr achosion yn tueddu i gynyddu wrth i blant ddychwelyd i’r ysgol.
Cynghorodd rieni sy’n gweld bod eu plant nhw’n datblygu symptomau ffliw i’w cadw nhw draw o’r ysgol, ac osgoi plant eraill sy’n dioddef.
“Mae yna ymchwydd yn nifer yr achosion,” meddai. “Rydw i’n disgwyl gweld hynny eto ond maen anodd dweud am ba hyd y bydd yn parhau.”
Dywedodd y dylai rhieni sy’n credu y byddai ffliw yn gwneud drwg i’w hiechyd nhw gael eu brechu cyn gynted a bo modd.
“Dyw’r firws ddim yn mynd i ddiflannu’r wythnos nesaf,” meddai. “Mae’n mynd i fod â ni am wythnosau ac fe fyddai’n werth cael brechlyn ar hyn o bryd.”