Mae proffwydi’r tywydd yn rhagweld y bydd cymylau yn gorchuddio’r wlad yn ystod diffyg ar yr haul yfory.
Serch hynny, rhybuddiodd prif swyddog meddygol y llywodraeth y gallai edrych i gyfeiriad yr haul achosi niwed parhaol i’r llygaid, os yw’r cymylau’n clirio.
Fe fydd y lleuad yn symud rhwng yr haul a’r ddaear rhwng 8am a 9.30am bore fory.
Dywedodd y Fonesig Sally Davies, Prif Swyddog Meddygol dros dro’r Llywodraeth, y dylai rhieni atal eu plant rhag edrych yn syth i gyfeiriad yr haul.
“Mae yna berygl mawr i blant, sy’n ragor tebygol o edrych. Dylai rhieni esbonio’r perygl,” meddai.
“Hoffwn i ddim gweld achos arall fel y bachgen gollodd ei olwg ym mis Hydref 2005 ar ôl gwylio diffyg ar yr haul o iard yr ysgol.”
Dywedodd Daniel Adamson, un o broffwydi tywydd cwmni MeteoGroup, mai gogledd-ddwyrain yr Alban oedd un o’r unig lefydd fyddai’n glir.
“Mae hi bron yn sicr o fod yn gymylog ymhobman,” meddai.