Mae’r dyn a oedd yn cael ei arestio am lofruddiaeth y pensaer tirwedd Joanna Yeates wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.
Roedd Christopher Jefferies, perchennog y fflat lle’r oedd y ferch 25 oed yn byw, wedi cael ei holi ers deuddydd gan Heddlu Avon a Gwlad yr Haf.
Ddoe, roedd swyddogion yn parhau i chwilio trwy’r tŷ lle’r oedd Christopher Jefferies, 65 oed, yn byw yn y fflat uwchben y ferch ifanc a’i chariad.
Mae’r heddlu’n pwysleisio bod yr ymchwiliad anferth yn parhau, gyda 70 o swyddogion yn gweithio ar yr achos.
Tystion
Maen nhw hefyd yn gofyn am dystion a allai fod wedi gweld rhywbeth amheus yn ardal Longwood Lane, lle cafodd y corff ei ddarganfod ddydd Nadolig.
Roedd Joanna Yeates wedi cael ei lladd wyth niwrnod ynghynt ac, yn ôl yr heddlu, roedd nifer o weithgareddau mawr wedi bod mewn clwb golff a gwesty lleol ac fe fyddai llawer o bobol wedi bod yn yr ardal, gan gynnwys gyrwyr tacsi.
Ddoe hefyd, fe gyhoeddodd teulu a chariad Joanna Yeates ddatganiadau yn sôn am eu colled a’u cariad tuag ati.
Llun: Joanna Yeates