Fe gafodd yr US Capitol ac adeiladau cyfagos eu gwagio heddiw, ac fe gafodd awyrennau’r fyddin eu galw, wedi i awyren yn cario teithwyr golli cysylltiad radio wrth hedfan i mewn i Faes Awyr Reagan heddiw.
Mae swyddogion wedi cadarnhau fod un o awyrennau Piedmont Airlines o Hilton Head yn Ne Carolina, wedi colli cysylltiad radio wrth ddynesu at y brifddinas.
Fe gafodd awyrennau rhyfel eu hanfon i’r ardal o wersyll llu awyr Andrews, er mwyn delio ag unrhyw argyfwng posib.
Fe ddaeth gorchymyn gan heddlu’r ardal i wagio’r adeiladau cyfagos, gan rybuddio gweithwyr fod awyren wedi hedfan i mewn i ardal oedd wedi ei gwahardd.
Fe gafodd yr holl orchmynion eu gwyrdroi pan lwyddwyd i gysylltu â pheilot yr awyren, ac fe laniodd yn ddi-ffws ym maes awyr Reagan.