Mae gwr oedd yn diodde’ o’r cyflwr MS wedi rhoi diwedd ar ei fywyd ei hun, a hynny mewn clinig yn y Swisdir. Fe ddywedodd wrth gyfaill fod yr afiechyd yn “dala lan” gydag ef.
Fe fu farw Andrew Colgan, 42, mewn clinig yn Zurich ar Ragfyr 9.
Yn ôl ei fam, Yvonne, o Newcastle-under-Lyme yn Swydd Stafford, roedd ei gyflwr wedi dirywio tipyn dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yn siarad mewn cyfweliad gyda phapur newydd y Sentinel.
“Dros y deuddeg mis diwethaf, roedd ei gyflwr wedi dirywio,” meddai. “Roedd yn treulio mwy o amser ar y llawr nac ar ei draed.
“Mewn dwy flynedd, fe aeth o allu cerdded gyda ffon, i fod mewn cadair olwyn. Mae MS yn gyflwr ofnadwy o greulon.”
Meddwl am y Swisdir ers tri mis
Mae Linda Walker, un o ffrindiau Andrew Colgan, wedi siarad am y modd y bu e’n trafod mynd i’r Swisdir i roi diwedd ar ei fywyd ers rhyw dri mis.
“Roedden ni’n eistedd yn cael cinio, ac fe ddaeth e ma’s, ‘Wy wedi cael digon, ac rwy’n meddwl mynd i Zurich a chyflawni hunanladdiad,” meddai’r wraig sydd hefyd yn diodde’ o MS.
“Fy ateb i oedd ‘Na, fe elli di wneud yn well na hyn’, ond roedd e’n benderfynol,” meddai Linda Walker wedyn. “Roedd e’n ddyn dewr iawn.
“Doedd e ddim yn gallu gweld unrhyw olau ym mhen draw’r twnnel, ac rwy’n credu ei fod wedi rhoi’r gorau i fynd ma’s. Roedd e wedi cael digon o’r MS. Mae’n stori drasig.”