Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth, ar ôl ymosodiad difrifol ar wr ifanc yng nghanol Caerdydd ddechrau mis Rhagfyr.
Fe gafodd dyn 29 oed o Ben-y-bont ar Ogwr anafiadau i’w ben ar ôl digwyddiad y tu allan i fwyty McDonalds ar Heol y Santes Fair tua 10 o’r gloch nos Sadwrn, Rhagfyr 11.
Mae’r gwr ifanc, sy’n syrffiwr brwd, yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru, ar ôl cracio ei benglog.
Mae detectifs yn dweud fod y teulu bellach yn gofyn i dystion eu helpu i ddod o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.
Datganiad
Mewn datganiad, mae teulu’r gwr yn disgrifio’r cyfnod ers yr ymosodiad fel un “ysgytwol”.
“Mae’r ffaith y gallai unrhyw un fynd o fod yn treulio noson mas gyda’i ffrindiau yn y ddinas, i fod mewn cyflwr agos-at-farw, wedi ein hysgwyd ni i gyd,” meddai’r datganiad.
“Mae Ian wedi treulio pum diwrnod yn yr uned gofal dwys, pum diwrnod arall yn yr uned dibyniaeth dwys ac, er ei fod yn dod yn ei flaen yn dda, fe fydd e’n derbyn triniaeth am fisoedd lawer eto.
“R’yn ni’n falch bod rhai pobol eisoes wedi siarad â’r heddlu, ond r’yn ni’n gofyn i unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am y digwyddiad, i ddod ymlaen nawr.
“Mae’n bwysig ein bod yn cadw ein strydoedd yn ddiogel.”
Cysylltu
Mae modd i unrhyw un gysylltu â’r Heddlu ym Mae Caerdydd ar y rhif 02920 527 420, neu mae modd cysylltu â Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.
Fe gafodd dau ddyn, 22 a 28 oed, eu harestio ar amheuaeth o ymosod, ac maen nhw ar fechnïaeth yr heddlu tra bod ymholiadau’n parhau.