Bu farw Syr Ellis Emmanuel Innocent Clarke, y cyffreithiwr a ddaeth yn Arlywydd cyntaf Trinidad a Tobago ac a luniodd gyfansoddiad yr ynys. Roedd yn 93 mlwydd oed.
Yn ôl datganiad gan ei deulu, roedd wedi diodde’ strôc drom fis Tachwedd, a heb ddod drosti. Bu farw’n hwyr nos Iau, Rhagfyr 30.
Ef oedd Llywodraethwr ola’r ynys pan oedd dan reolaeth Prydain. Pan gafodd ei ethol yn Arlywydd yn 1976, fe ddaeth yr ynys yn weriniaeth.
Fe gafodd Ellis Clarke ei eni ar Ragfyr 28, 1917 yng ngogledd yr ynys, yn fab i rieni dosbarth canol.
Fe astudiodd y Gyfraith ym Mhrifysgol Llundain, a dod yn Dwrnai Cyffredinol Trinidad. Fe fu’n llysgennad yr ynys yn America, cyn cael ei ethol yn Arlywydd.