Mae ystyr bywyd i’w gael trwy ddarllen llyfr 400 mlwydd oed, yn ôl Archesgob Caergaint.

Yn ei neges dechrau blwyddyn ar gyfer 2011, sydd wedi ei recordio ar gyfer y BBC, mae’r Archesgob Rowan Williams yn annog pobol o bob cefndir a ffydd, hyd yn oed y rhai sydd ddim yn arddel yr un grefydd, i gymryd golwg ar Feibl y Brenin Iago.

Fe gafodd y llyfr ei gyhoeddi gyntaf yn 1611 fel y Beibl Saesneg swyddogol. Ond mae’r stori “yn dal i allu ein symud a’n dychryn ni,” meddai Rowan Williams.

“Mae pethau’n newid, mae’r byd yn symud yn ei flaen, ond mae’n dda i ni gael rai pethau sy’n gyson yn ein bywydau – geiriau a delweddau sydd weithiau’n cynnig ychydig o ddirgelwch, y pethau yr ydyn ni’n ceisio dod o hyd i’n geiriau ein hunain i’w cyfleu nhw.”

Er mwyn gwneud synnwyr o’u bywydau, mae Rowan Williams yn annog pawb i ystyried y “darlun mawr”, beth bynnag ydi eu cred.

“Fe lwyddodd Beibl y Brenin Iago i ddal dychymyg miliynau o bobol yn y byd – fe roddodd iddyn nhw y darlun mawr, a stori oedd yn gwneud i’w bywydau nhw’u hunain wneud synnwyr.

“Os ydyn ni’n mynd i sôn am ‘gymdeithas fawr’, fe fydd angen darlun mawr arnon ni, darlun o beth a phwy ydi’r ddynol ryw, a pham fod dyn mor unigryw a gwerthfawr.”