Fe ddaeth y Gweilch yn agos at gipio buddugoliaeth yng Nghaerdydd heddiw… ond roedd gôl gosb i’r Gleision wedi gwneud yn siwr fod tim y brifddinas ar y blaen ar ôl 80 munud.
Ar ôl i’r Gleision fynd ar y blaen, ac aros ar y blaen am yr hanner cyntaf, a chyrraedd yr egwyl 24-3 ar y blaen, fe ddaeth y Gweilch yn eu holau yn yr ail hanner ac ymladd eu ffordd o fewn chwe phwynt gyda chic gosb gan James Hook.
Ond fe sicrhaodd y Gleision eu buddugoliaeth wedi i Ceri Sweeney sgorio tri phwynt gyda’i gic gosb yntau.
A hyd yn oed pan ddaeth y Gweilch yn eu holau eto yn chwarter awr ola’r gêm, doedd hynny ddim yn ddigon.
Roedd torf o dros 19,000 yn gwylio’r gêm ar ddiwrnod ola’ 2010.