Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi cadarnhau bod yr hyn sy’n ymddangos fel cannoedd o bysgod marw wedi eu canfod mewn marina ger Y Fenni yn gynharach heddiw.
Fe allai cwymp o 30cm yn lefel dwr yr afon, o ganlyniad i waith sy’n digwydd yn yr ardal, fod yn gyfrifol am ladd y pysgod yn Goytre, meddai’r Asiantaeth mewn datganiad y pnawn yma.
Ond mae’n fwy tebygol mai’r tywydd oer, y rhew a’r diffyg ocsigen sydd i’w feio, meddai’r Asiantaeth wedyn.
Mae’r profion cynharaf yn dangos nad yw’r dwr wedi’i lygru, ond mae’r ymchwiliadau yn parhau.
Mae swyddogion yr Astiantaeth yn cynghori pobol i beidio trio symud na mynd yn rhy agos at y pysgod ar hyn o bryd.