Mae awyrennau’r fyddin wedi bod yn cario bwyd a dwr i bobol mewn trefi sydd wedi cael eu hynysu gan y llifogydd yng ngogledd-ddwyrain Awstralia.
Ar ben hynny, mae Prif Weinidog y wlad wedi addo cymorth o’r newydd i’r 200,000 o bobol sydd wedi cael eu heffeithio gan y trychineb, wrth i’r dwr orchuddio ardal sy’n fwy na Ffrainc a’r Almaen gyda’i gilydd.
Roedd trigolion un ai’n prynu bwyd neu’n dianc o’u cartrefi wrth i lefel afonydd barhau i godi ac effeithio 22 o drefi yn nhalaith Queensland.
Heddiw, mae’r Prif Weinidog Julia Gillard wedi bod yn ymweld â chanolfan sy’n helpu pobol sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yn nhref Bundaberg.
Mae wedi cyhoeddi y bydd teuluoedd sydd wedi colli eu cartrefi neu ddiodde’ difrod mawr yn derbyn taliadau o 1,000 o ddoleri Awstralia (sy’n cyfateb i £650 i bob oedolyn) a 400 doler (neu £260) ar gyfer pob plentyn.
Llun: Julia Gillard, Prif Weinidog Awstralia