Mae David Cameron wedi rhybuddio y bydd 2011 yn “flwyddyn anodd”, ond mae’n mynnu fod gan Brydain “ddyfodol gwirioneddol ddisglair”.

Yn ei neges Flwyddyn Newydd, mae Prif Weinidog Prydain yn dweud y bydd yn rhaid i’r rhan fwyaf o’r gwaith caled sydd angen ei wneud er mwyn taclo dyledion y wlad, gael ei wneud yn ystod y 12 mis nesaf.

Ond mae’n mynnu bod yn bositif hefyd, gan ddweud y bydd Prydain yn “un o straeon llwyddiant y byd” yn y degawd nesaf – unwaith y bydd y problemau presennol wedi eu sortio.

Pwysleisiodd nad oedd ef ei hun, na’i Ddirprwy, Nick Clegg, yn torri’n ôl er mwyn bodloni eu syniadau nhw’u hunain, ond yn hytrach oherwydd bod Prydain wedi bod yn “byw y tu hwnt i’w modd”.

Gwneud y peth iawn

“Mae’r angen cenedlaethol yn dweud fod yn rhaid i ni wneud yr hyn sy’n iawn, sef gweithredu, ac nid y peth hawdd, sef sefyll yn ôl a gwneud dim. Trwy weithredu, fe ddylen ni fod yn glir: mae gan Brydain ddyfodol gwirioneddol ddisglair i edrych ymlaen ato,” meddai David Cameron.

“Mae 2011 yn mynd i fod yn flwyddyn anodd, wrth i ni gymryd camau anodd, ond angenrheidiol, er mwyn sortio pethau allan. Mae’r hyn ydan ni’n ei wneud yn angenrheidiol, oherwydd maen nhw’n gosod yr economi yn ôl ar ei thraed ac ar y llwybr cywir.

“Gyda’n gilydd, fe allwn ni sicrhau mai 2011 ydi’r flwyddyn pan fydd Prydain yn cael ei thraed ati.”