Mae’r teicwn olew o Rwsia, Mikhail Khodorkovsky, yn apelio yn erbyn ei ddedfryd o chwe blynedd arall dan glo – cosb sy’n cael ei gweld fel dial personol am iddo feiddio herio’r cyn-Arlywydd Vladimir Putin.
Mae cyfreithiwr y gwr busnes, Karinna Moskalenko, wedi lawnsio’r apêl heddiw, cyn gwyliau 10-diwrnod y Flwyddyn Newydd yn Rwsia.
Yn ôl Moskalenko, does a wnelo’r honiadau bod Khodorkovsky wedi dwyn gwerth bron iawn i 30 biliwn o ddoleri o olew rhwng 1998 ac 2003 oddi wrth ei gwmni ei hun, Yukos, gan guddio’r arian, ddim byd i’w wneud â chyfiawnder.
Mae partner busnes Khodorkovsky, Platon Lebedev, hefyd wedi’i ddedfrydu i garchar, ac mae ei gyfreithiwr yntau wedi apelio’n erbyn y penderfyniad.
Mae llywodraethau gwledydd y Gorllewin hefyd wedi beirniadu’r dedfrydu, gan ddweud ei fod yn enghraifft o’r modd y mae Rwsia’n defnyddio’r sustem gyfreithiol er mwyn sgorio pwyntiau gwleidyddol.
Llun: Vladimir Putin, yn cael ei gyhuddo o ddefnyddio’r sustem gyfreithiol i sgorio pwyntiau gwleidyddol yn Rwsia