Mae streic gan ymgyrchwyr o blaid cyfreithiau cabledd dadleuol Pacistan wedi arwain at gau busnesau ac at orfodi’r gwasanaeth bysus oddi ar yr hewl mewn sawl rhan o’r wlad Fwslimaidd.
Fe gafodd y gyfraith lot fawr o sylw pan gafodd gwraig o Gristion, Asia Bibi, ei dedfrydu i farwolaeth fis Tachwedd am ddwyn anfri honedig ar y Proffwyd Muhammad.
Grwpiau Islamaidd sydd wedi galw am y streiciau, er gwaetha’r ffaith bod y blaid sy’n rheoli’r wlad wedi rhoi ei gair na fydd y gyfraith yn cael ei newid.
Rali ar ôl gweddi
Y tu allan i fosgiau yn ninas Karachi, mae nifer fawr o ddynion wedi bod yn cynnal ralïau o blaid y gyfraith, ar ôl bod yn offrymu ei gweddïau wythnosol.
Mae grwpiau hawliau dynol yn dweud fod y gyfraith yn cael ei chamddefnyddio gan bobol sydd am ddial ar unigolion neu grwpiau crefyddol lleiafrifol.
Mae’r rhan fwyaf o achosion cabledd yn cael eu taflu allan o’r llysoedd. Does neb, hyd yn hyn, wedi cael eu lladd dan y ddeddf.
Llun: Karachi