Mae o leia’ ddau Gristion wedi cael eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau newydd ar y gymuned.
Mae dathliadau’r Nadolig wedi cael eu chwarae i lawr yn y wlad oherwydd bygythiadau gan eithafwyr.
Mae’r Tad Mukhlis, un o offeiriaid Baghdad, lle cafodd 68 o bobol eu lladd yn ystod gwarchae fis Hydref, yn dweud fod cynifer â dwsin o ymosodiadau wedi bod yn erbyn cartrefi Cristnogion neithiwr (nos Iau).
Mae heddlu’n dweud fod eithafwyr wedi targeu pedwar o gartrefi Cristnogol, gan ladd dau o bobol mewn cyfuniad o ymosodiadau bom a grenâd.
Dyma’r ymosodiadau cyntaf ers i ymgyrchwyr sydd wedi eu cysylltu ag Al-Qaida fygwth yr wythnos ddiwethaf y byddai ton newydd o drais yn erbyn Cristnogion yn Irac.