Mae pymtheg o bobol wedi marw ar ôl i fws yn cario 77 o ferched ysgol gael ei sgubo oddi ar y ffordd gan lifogydd yn yr Aifft.
Fe fu achubwyr heb fawr o offer, ynghyd â phobol leol, yn stryffaglu i achub teithwyr ar y bws. Roedd y cerbyd wedi troi drosodd mewn ffos ddofn ar y ffordd tua dinas Minya, 124 milltir i’r de o’r brifddinas, Cairo.
Mae tystion wedi bod yn sôn am weld cyrff merched ifanc yn gwisgo sgarffiau am eu pennau a gwisg ysgol yn arnofio yn y dwr.
Roedd y rheiny a fu farw’n cynnwys gyrwr ambiwlans a fu wrthi’n achub 20 o’r merched, cyn i’r llifogydd ei sgubo yntau i ffwrdd i’w farwolaeth.
Roedd y merched ysgol a’u hathrawon wedi bod ar drip i Minya, ac roedden nhw ar eu ffordd gartref i dref Assiut.