Fydd yr hen herwr, Billy the Kid, ddim yn cael pardwn, yn ôl Llywodraethwr talaith New Mexico, Bill Richardson.
Roedd gobaith y byddai’r cowboi enwog, a fu farw yn 1881, wedi cydio yn nychymyg pobol ym mhob rhan o’r byd.
Roedd y mater wedi codi yn ddiweddar oherwydd bod rhai’n mynnu bod cyn-Lywodraethwr New Mexico wedi addo pardwn iddo tra’r oedd yn fyw, a hynny yn gyfnewid am dystiolaeth am lofruddiaethau yr oedd y ‘Kid’ wedi bod yn dyst iddyn nhw.
Un o’r llofruddiaethau oedd un sheriff sirol yn 1878. Fe gafodd Billy the Kid ei saethu’n farw rai misoedd wedi hynny, ar ôl dianc o’r carchar lle’r oedd yn cael ei gadw’n gaeth cyn ei grogi am ladd y sheriff.
Yn ôl yr hanes, roedd Billy wedi lladd cyfanswm o 21 o bobol – un am bob blwyddyn o’i oes. Ond bellach, mae Adran Twristiaeth New Mexico yn dweud bod y cyfanswm cywir yn agosach at naw.