Mae parc safari yn Lloegr yn dathlu genedigaeth ail rhinoceros gwyn o fewn y mis diwethaf.

Fe gafodd y fenyw ei geni ym Mharc Saffari Knowsley ar lannau Merswy brynhawn ddoe. Mae hyn yn dod wedi genedigaeth ei hanner-brawd, Troy, ddiwedd Tachwedd.

Yn ôl ceidwaid y parc, mae’r llo a’i mam 16 mlwydd oed, Winnie, yn iach, ond fe fyddan nhw’n aros dan-do am dipyn oherwydd bod y tywydd mor oer tu allan.

Mae trydedd rhinoceros hefyd yn feichiog yn Knowsley, ac mae disgwyl i honno roi genedigaeth yn gynnar yn 2011.

“Dydi babis Blwyddyn Newydd ddim yn dod yn llawer mwy o faint na hyn,” meddai David Ross, Rheolwr Cyffredinol y parc. “Dyma’r llo mwyaf i ni ei gael yma erioed.”

Mae pob rhinoseros yn cario am gyfnod o bron i flwyddyn a hanner – rhwng 485 a 515 diwrnod (neu tua 16 mis).

Mae’r rhinoseros gwyn yn dipyn mwy o faint na’r rhinoseros du, a’r rhino gwyn yw’r ail famal mwyaf sy’n byw ar y ddaear – yr eliffant yw’r mwyaf.