Mae Prif Lenor dwbwl wedi cael dod gartref o’r ysbyty ar ôl cael anaf i’w ben noswyl Nadolig.
Fe dreuliodd Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Portmeirion Cyf., bedair noson yn Ysbyty Gwynedd ar ôl cael damwain nos Wener diwethaf, a chracio ei benglog.
Erbyn hyn, mae gartref ym Minffordd ger Porthmadog ac, mewn datganiad, meddai llefarydd ar ran cwmni Portmeirion Cyf.:
“Gallwn gadarnhau fod Robin Llywelyn wedi cael damwain noswyl Nadolig, lle cafodd drawiad ar ei ben sydd wedi achosi toriad penglog (fractured skull).
“Bu yn yr ysbyty am bedair noson, ac fe ddaeth adref nos Fawrth (Rhagfyr 28). Mae nawr yn cael ei warchod gan ei deulu.
“Mae mewn cyflwr cyfforddus, ond mae’n mynd i gymryd amser iddo ddod yn ôl yn iawn, fel sy’n wir bob amser yn yr achosion hyn.”
Enillodd Robin Llywelyn y Fedal Ryddiaith ddwywaith, am ei nofelau Seren Wen ar Gefndir Gwyn (Cereidigion, 1992) ac O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn (Castell Nedd, 1994). Fe enillodd hefyd Wobr Goffa Daniel Owen yng Nghasnewydd, 2004 gyda’i nofel Un Diwrnod yn yr Eisteddfod.