Fe fydd yr ymgyrch i geisio sicrhau pleidlais o blaid cryfhau pwerau’r Cynulliad yn cael ei lansio’n swyddogol fore dydd Mawrth.

Ddiwrnod ar ôl y lansiad cenedlaethol yng Nghaerdydd, pryd y mae disgwyl i arweinwyr y pedair prif blaid gymryd rhan, fe fydd cyfres o lansiadau rhanbarthol yn Aberdâr, Aberystwyth, Bangor, Casnewydd a Wrecsam nos Fercher – ac un ar y nos Fercher ganlynol yn Abertawe.

Fe fydd y lansiad yn digwydd ddeufis cyn y refferendwm ar Fawrth 3.

Yn ôl y trefnwyr, fe fydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar un brif neges, sef y dylai deddfau sy’n ymwneud â Chymru’n unig gael eu gwneud yng Nghymru.

“Fe fyddwn ni hefyd yn pwysleisio’r angen am lais cryfach i Gymru fel sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai Elin Wyn ar ran yr ymgyrch.