Mae ditectifs yn dal i holi landlord Joanna Yeates ar amheuaeth o’i llofruddio.
Cafodd Chris Jefferies, 65 oed, athro ysgol fonedd wedi ymddeol, ei arestio am 7 y bore yma yn ei fflat uwchben y llawr o’i adeilad yr oedd yn ei osod i’r pensaer tirwedd 25 oed a’i chariad Greg Reardon.
Cafodd Jefferies ei arestio 24 awr ar ôl iddo honni iddo weld tri o bobl yn gadael fflat Joanna Yates yn Canynge Road yn Clifton, Bryste, ar y noson y diflannodd.
Roedd yn athro Saesneg yn Clifton College, sydd ychydig lathenni o’i fflat, o ddechrau’r 1970au hyd nes iddo gymryd ymddeoliad cynnar yn 2001.
Dywed cymdogion ei fod yn aelod gweithgar o’r gymuned a’i fod yn chwarae rhan amlwg yn ei grŵp Gwarchod Cymdogol lleol. Mae hefyd yn aelod brwd a gweithgar o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Clifton.
Mae swyddogion fforensig wedi treulio’r diwrnod yn archwilio fflat Joanna Yeates a Chris Jefferies, ac mae’r heddlu wedi cymryd dau gar o’r safle i’w harchwilio.
Y tro olaf i Joanna Yeates gael ei gweld oedd ar Ragfyr 17, a chafwyd hyd i’w chorff wedi ei orchuddio ag eira fore dydd Nadolig gan gwpl a oedd yn mynd â’u cŵn am dro tua thair milltir o’i chartref.
Fe ddangosodd profion post mortem iddi hi gael ei thagu.
Llun: Joanna Yeates