Mae Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn dweud y bydd yn rhaid i brif swyddogion cwmni dŵr y dalaith gymryd cyfrifoldeb am fethiannau’r dyddiau diwethaf.
Er bod y sefyllfa’n gwella o ran adfer cyflenwadau dŵr, dywed Northern Ireland Water y gallai gymryd tan yr wythnos nesaf i gwblhau’r atgyweiriadau mewn ardaloedd anghysbell.
“Mae’n rhaid cael atebolrwydd am yr hyn sydd wedi digwydd, ac allai neb awgrymu bod Northern Ireland Water wedi disgleirio dros y dyddiau diwethaf,” meddai’r Prif Weinidog Peter Robinson.
“Rhaid i bobl asesu eu sefyllfaoedd – ac os na wnân nhw hynny, gallai eraill asesu eu sefyllfaoedd ar eu rhan.
“Rydyn ni’n gwbl benderfynol na fydd y perfformiad yma’n cael ei ailadrodd. Mae wedi bod yn shambolig ar brydiau, mae wedi bod yn aneffeithiol, ac nid yw wedi bod y math o sefydliad sy’n addas i’r diben.”
Cythruddo
Ar ôl cyfarfod arbennig o gabinet Gogledd Iwerddon yn Stormont heddiw, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness fod gweinidogion wedi cael eu cythruddo gan berfformiad Northern Ireland Water.
“Ar ôl i famau beichiog, teuluoedd â phlant ifanc a’r henoed fod heb ddŵr ers dyddiau, dydyn ni ddim am sefyll yma a gwneud esgusodion am gorff sydd wedi gadael ein dinasyddion i lawr mor druenus,” meddai.