Ar ôl achos llys a barhaodd am 20 mis ym Moscow, mae chwe blynedd ychwanegol wedi eu hymestyn at ddedfryd carchar y masnachwr olew Rwsiaidd Mikhail Khodorkovsky.
Mewn treial a oedd yn cael ei weld fel ymgais y prif weinidog Vladimir Putin i ddial arno am ei herio, cafodd Khodorkovsky ei ddedfrydu i 14 mlynedd o garchar am ddwyn olew oddi ar ei gwmni ei hun a ‘golchi’ yr enillion ariannol.
Fe fydd y ddedfryd, a oedd yr hyn yr oedd yr erlynwyr yn gofyn amdani, yn cael ei chyfrif o’r adeg y cafodd ei arestio yn 2003. Roedd eisoes yn y carchar ar flwyddyn olaf dedfryd o wyth mlynedd.
Y farn gyffredinol yw mai Putin, y prif weinidog bellach, sy’n gyfrifol am yr ymosodiad cyfreithiol ar Khodorkovsky, ar ôl iddo’i herio pan oedd Putin yn arlywydd y wlad.
Wrth iddo ystyried ceisio eto am yr arlywyddiaeth yn 2012, mae’n ymddangos ei fod yn anfodlon mentro’r posibilrwydd y gallai Khodorkovsky, o gael ei draed yn rhydd, helpu gelynion gwleidyddol Putin.
“Mae’n ddedfryd greulon ac abswrd sy’n profi nad oes gan Rwsia unrhyw lysoedd annibynnol,” meddai Lyudmila Alexeyeva, ymgyrchydd blaenllaw dros hawliau sifil.
“Byddai llys annibynnol wedi gollwng y diffynyddion yn rhydd a chosbi’r rhai a oedd yn gyfrifol am greu’r ffug-gyhuddiadau.”
Llun: Y Kremlin yn Moscow (o wefan wikipedia)