Roedd hi’n noson hanesyddol yng Nghaerfyrddin neithiwr wrth i’r canwr Meic Stevens ffarwelio â’i ffans ar ôl ymhell dros 40 mlynedd o berfformio ledled Cymru.
Gig Nadolig Cymdeithas yr Iaith yng nghlwb rygbi’r dref oedd perfformiad byw olaf y canwr o Solfach cyn iddo symud i fyw i Ganada at ei ddarpar wraig.
Fel y cyhoeddodd Golwg yn ystod yr haf, fe fydd Meic Stevens yn priodi’r flwyddyn nesa’ gyda hen gariad nad oedd wedi ei gweld ers bron 50 mlynedd.
Roedd ei ddarpar wraig, Elizabeth Sheehan wedi ei magu yn Solfach, ond wedi gadael yr ardal ar ôl marwolaeth ei mam.
Roedden nhw’n arfer bod yn gariadon, pan oedd e’n 19 oed a hithau’n 16 oed, ond roedd wedi colli cysylltiad â hi tan y llynedd.
Llun: Meic Stevens yn canu yng nghlwb y Quinns yng Nghaerfyrddin neithiwr