Mae o leiaf 10 o bobl gyffredin wedi cael eu lladd gan fom ar ochr ffordd yn ne Afghanistan.

Yn ôl Nato, cafodd amryw o bobl eraill eu hanafu yn y ffrwydrad mewn ardal boblog yn nhalaith Helmand.

Dywedodd llefarydd fod bws mini wedi taro bom ar ochr ffordd a oedd wedi ei blannu gan y Taliban ac y gallai hyd at 14 o bobl fod wedi cael eu lladd, ond nad oes sicrwydd pendant am yr union nifer.

Mae Helmand yn un o’r taleithiau sy’n gadarnleoedd i’r Taliban yn ne Afghanistan. Mae Nato wedi cryfhau ei luoedd yma eleni mewn ymgais i orchfygu’r gwrthryfelwyr.

Llun: Map yn dangos lleoliad Helmand yn ne Afghanistan (o wefan Wikipedia)