Mae clwb criced Morgannwg wedi sgrifennu at siroedd eraill yn eu rhybuddio bod y batiwr ifanc yn dal ar eu llyfrau nhw ac nad yw ar gael i drafod cael ei drosglwyddo.
Yn ôl y sir, roedd y batiwr 21 oed wedi gweithredu’n anghyfreithlon trwy ymddiswyddo o’i gytundeb tair blynedd ac mae’n parhau i fod yn chwaraewr i Forgannwg.
“O ganlyniad, beth bynnag yw teimladau Tom, all e ddim troi cefn ar ei gyfrifoldebau cytundebol a fydd y clwb ddim yn caniatáu iddo wneud hynny,” meddai Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer.
“Dyw e ddim chwaith yn gallu dechrau trafodaethau gyda siroedd eraill heb ganiatâd ymlaen llaw gan y clwb.”
Yn ôl y clwb, roedd Alan Hamer wedi cysylltu gyda’r siroedd eraill tra oedden nhw’n trafod gyda Maynard ac fe fydd yn gwneud yr un peth eto yn ystod y dyddiau nesa’.
Disodli ei dad
Roedd Tom Maynard wedi cyhoeddi ei ymddiswyddiad ddechrau’r wythnos, gan roi’r bai ar gyfeiriad y clwb a’r ffordd yr oedden nhw wedi disodli ei dad, y cyn-Gyfarwyddwr Criced, Matthew Maynard.
Ond, yn ôl Morgannwg, roedden nhw wedi ymgynghori’n gyson gyda chyfreithwyr ac wedi rhoi gwybod i gynghorwyr y batiwr hefyd am oblygiadau’r cytundeb.
Yn ôl y sir, roedd hwnnw wedi ei arwyddo eleni ac, yn wahanol i gytundeb cynharach y chwaraewr ifanc, doedd dim ynddo oedd yn rhoi’r hawl i Tom Maynard adael os oedd ei dad yn mynd.
Llun: Tom Maynard