Mae un o gyn-arlywyddion Israel wedi ei gael yn euog o dreisio gwraig oedd yn gweithio iddo.
Mae’r dyfarniad yn golygu y bydd Moshe Katsav yn wynebu dedfryd o o leia’ bedair blynedd o garchar ac mae’n dal i wynebu rhagor o gyhuddiadau rhywiol llai.
Mae’r helynt am y gwleidydd 65 oed, a oedd hefyd wedi bod yn weinidog yn y Llywodraeth yn Israel, wedi bod yn y penawdau ers mwy na phedair blynedd.
Yn ôl y dystiolaeth yn y llys, roedd y gwleidydd yn ddyn ymwthgar oedd yn manteisio ar ei bŵer i blagio merched oedd yn gweithio iddo.
Fe ymddiswyddodd yn 2007 gyda Shimon Peres yn ei ddilyn yn y swydd, sy’n rôl seremonïol.
Llun: Moshe Katsav (Amir GIlad CCA 3.0)