Mae dyn 65 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio’r pensaer tirwedd, Joanna Yeates, ym Mryste.

Fe gyhoeddodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu bod wedi mynd i dŷ yn Canynge Road, Bryste, toc wedi saith y bore ac wedi arestio’r dyn.

Dyna’r stryd ble’r oedd Joanna Yeates yn byw gyda’i chariad – fe ddiflannodd hi ar 17 Rhagfyr ac fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff yn yr eira Ddydd Nadolig.

Roedd hynny rhyw ddwy filltir o’i chartref ac, yn ôl yr heddlu, roedd y corff wedi bod yno ers sawl diwrnod.

Roedd tystion newydd wedi dweud ddoe eu bod wedi gweld Joanna Yeates yn gadael ei fflat gyda dau o bobol ar y noson y diflannodd.

Mae’r dyn sydd wedi ei arestio bellach yn cael ei holi mewn swyddfa heddlu yn y ddinas.

Llun: Joanna Yeates