Fe fydd cabinet Gogledd Iwerddon yn cynnal cyfarfod brys heddiw i drafod yr argyfwng tros ddŵr yn y dalaith.

Mae degau o filoedd o bobol heb gyflenwad oherwydd pibellau sydd wedi torri yn ystod tywydd rhewllyd mis Rhagfyr.

Ond mae rhai pobol yn galw am ddiswyddo prif swyddogion cwmni dŵr Gogledd Iwerddon oherwydd eu harafwch yn ymateb.

Fe fydd y cabinet yn cwrdd yng Nghastell Stormont dan arweiniad y Prif Weinidog, Peter Robinson, a’i ddirprwy, Martin McGuinness.

Dŵr o’r Alban

Eisoes, mae lorïau dŵr ar eu ffordd o’r Alban ac mae posibilrwydd o gael rhagor trwy’r adran amaeth, Defra, yn Llundain.

Fe fu canolfannau hamdden yn aros yn agored yn y dalaith, er mwyn i bobol allu cael cawod ac mae doctoriaid wedi rhybuddio y bydd y prinder dŵr yn achosi problemau iechyd.

“Sut bod rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi bod trwy dywydd tebyg ond heb ddiodde’ sychder fel ni?” meddai Glynn Roberts, Prif Weithredwr Cymdeithas Annibynnol Siopau Gogledd Iwerddon. “Fe ddylai bobol gael y sac oherwydd yr ymateb trychinebus.”

Llun: Stormont