Mae dau o gyn-Ysgrifenyddion Cymru yn mynd yn groes i faniffesto eu plaid trwy ymgyrchu yn erbyn newid yn y system bleidleisio.
Mae Alun Michael a Paul Murphy ymhlith naw o ASau Llafur sydd wedi arwyddo i gefnogi’r Ymgyrch ‘Na’ yn y refferendwm tros y bleidlais AV, lle mae etholwyr yn gosod ymgeiswyr mewn trefn 1,2,3.
Fe fyddan nhw’n ymgyrchu yn erbyn Llafurwyr Cymreig amlwg eraill, fel Neil a Glenys Kinnock, y Llefarydd ar Gymru, Peter Hain, ac ASau fel Paul Flynn, Chris Bryant a Kevin Brennan.
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband, hefyd yn un o gefnogwyr yr ymgyrch o blaid newid.
Maniffesto
Yn yr Etholiad Cyffredinol, roedd y Blaid Lafur wedi cynnwys addewid i gynnal refferendwm AV yn eu maniffesto ac mae’r ymgyrch ‘Ie’ wedi condemnio’r ASau sy’n dweud ‘Na’.
“Mae’n siom bod rhai ASau Llafur wedi dewis budd tactegol tymor byr yn hytrach na lles tymor hir y pleidleiswyr a’r Blaid Lafur,” medden nhw mewn datganiad.
Ond yn ôl yr ymgyrch ‘Na’, NO2AV, mae’r pwnc yn bwysicach na gwleidyddiaeth plaid ac mae cynrychiolwyr y Blaid Lafur yn rhydd i bleidleisio yn ôl eu cydwybod.
Y rhai sy’n dweud ‘Na’
Y Cymry eraill ymhlith y mwy na 100 o ASau Llafur sydd wedi cefnogi’r ymgyrch Na yw Ann Clwyd (Cwm Cynon), Geraint Davies (Gorllewin Abertawe), Chris Evans (Islwyn), Ian Lucas (Wrecsam), Albert Owen (Ynys Môn), Nick Smith (Blaenau Gwent) a Mark Tami (Alyn a Glannau Dyfrdwy).
Llun: Un o’r rhai sy’n dweud ‘Na’