Mae ardaloedd ar draws Cymru’n diodde’ o ddiffyg dŵr oherwydd pibellau sydd wedi torri yn sgil y tywydd rhewllyd.
Yn yr ardal gyda’r problemau gwaetha’ – o amgylch San Clêr yn Sir Gaerfyrddin – mae cwmni Dŵr Cymru’n dweud eu bod bellach wedi adfer y cyflenwad i tua 3,000 o gartrefi.
Ond mae nifer o bentrefi a stadau yn ardal Merthyr Tudful hefyd yn diodde’ ynghyd â rhannau o Gaernarfon, Llanddaniel, Edern, Abergele, Llanrwst, Machynlleth a Hwlffordd.
Yn ôl Dŵr Cymru, tydyn nhw erioed wedi bod mor brysur ac maen nhw’n gofyn am wybodaeth am adeiladau gwag lle mae pibelli wedi torri.
Problemau Sir Gaerfyrddin
Yn Sir Gaerfyrddin, roedd y problemau wedi effeithio ar ardal o Alltwalis i’r gogledd o Gaerfyrddin i lawr i Lansteffan, gyda 22 o danciau dŵr wedi eu gosod mewn pentrefi yno.
Roedd siopau lleol yn dweud bod cyflenwadau dŵr potel wedi gwerthu’n llwyr wrth i’r cwmni rybuddio y gallai’r problemau barhau am rai dyddiau eto.
Pibellau wedi torri a nam ar orsaf bwmpio oedd yn cael y bai.
Llun: Y math o danc sy’n cael ei ddefnyddio yn Sir Gaerfyrddin