Fe fydd cyfarfod arbennig o gabinet llywodraeth Gogledd Iwerddon yn Stormont yfory i drafod pa gamau pellach sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael ag argyfwng dŵr y dalaith.

Gyda llawer o deuluoedd wedi bod heb unrhyw fath o gyflenwad dŵr ers cyn y Nadolig, mae lorïau’n cludo 160,000 litr o ddŵr potel ar eu ffordd o’r Alban i liniaru rhywfaint ar yr argyfwng.

Dywed t cwmni sy’n gyfrifol am y cyflenwadau dŵr, Northern Ireland Water, fod 95% o’u cwsmeriaid yn cael dŵr erbyn hyn, ond gyda’r cyflenwadau’n cael eu cylchdroi, fe fydd 36,000 o gwsmeriaid ar y tro yn wynebu toriadau dros yr oriau nesaf.

Mae disgwyl y bydd yn cymryd o leiaf rai dyddiau cyn y bydd yr holl waith atgyweirio wedi’i gwblhau ac adfer y cyflenwad yn llwyr.

Beirniadaeth

Mae cwmni dŵr y dalaith, Northern Ireland Water, wedi dod o dan feirniadaeth gynyddol, gyda galwadau ar y prif weithredwr Laurence McKenzie i ymddiswyddo.

“Mae’r cwmni bellach yn cael ei redeg gan bobl heb unrhyw brofiad o ddarparu cyflenwad dŵr,” meddai John Dallat, aelod SDLP o Gynulliad Gogledd Iwerddon.

“Ddylai neb gredu bod yr argyfwng yma wedi cychwyn gyda’r bluen eira gyntaf. Mae Northern Ireland Water wedi bod mewn argyfwng ers amser maith iawn felly ni ddylai fod yn syndod i neb nad oedd unrhyw gynlluniau wrth gefn, a methiant llwyr i reoli’r sefyllfa.”

Mae’r Prif Weinidog Peter Robinson a’r Dirprwy Brif Weinidog Martin McGuinness, a fydd yn cadeirio’r cyfarfod yfory, hefyd yn feirniadol o’r cwmni.

Mewn datganiad ar y cyd, dywed y ddau: “Mae ymateb Northern Ireland Water yn amlwg wedi bod yn annigonol ar rydyn ni’n edrych ar frys pa gamau eraill y gellir eu cymryd i liniaru’r problemau y mae pobl yn eu hwynebu.”

Fe fydd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Owen Paterson, hefyd yn cyfarfod Peter Robinson a Martin McGuinness yfory i drafod ffyrdd y gallai llywodraeth Prydain helpu, fel darparu tanceri ychwanegol.

“Rydyn ni yma i helpu,” meddai. “Mae Defra wedi ymdrin ag argyfyngau mawr o’r blaen fel llifogydd a thraed a’r genau ac efallai y gallai’r adran gynnig cymorth sylweddol.”

Mae’r trafferthion wedi arwain hefyd at ofnau o argyfwng iechyd yng Ngogledd Iwerddon – gweler stori ar wahân