Mae Gwylwyr y Glannau Abertawe’n rhybuddio morwyr i astudio rhagolygon y tywydd cyn mentro allan i’r môr.
Fe wnaethon nhw dderbyn dwy alwad yn y 48 awr diwethaf gan gychod mewn trafferthion oherwydd y niwl trwchus.
Brynhawn ddoe aeth cwch pysgota gyda thri o bobl ar ei fwrdd yn sownd i’r lan ger Penarth yn sgil gwelededd o 80 troedfedd yn unig, a’r bore yma roedd cwch pysgota arall angen help.
Meddai Bernie Kemble, rheolwr Gwylwyr y Glannau Abertawe:
“Efallai fod y gwyliau rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd yn ymddangos fel amser delfrydol i fynd â chwch allan, ond mae gwelededd isel yn ei gwneud hi’n hynod o anodd llywio cwch yn ddiogel, neu i roi lleoliad cywir os ydych mewn anhawster.
“Roedd y bobl ar fwrdd y cychod yma’n lwcus fod ganddyn nhw ddigon o signal ffôn symudol i alw am help, gan nad oedd gan y naill na’r llall radio a oedd yn gweithio ar eu bwrdd, ac er bod gan y cwch cyntaf fflachiadau mae’n annebygol y bydden nhw wedi cael eu gweld mewn niwl trwchus.”