Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio eto am wybodaeth am lanc 19 oed a aeth ar goll ym Mhorthaethwy yn ystod oriau mân bore ddoe.
Cafodd Joe Hughes o Ddwyran ym Môn ei weld ddiwethaf ger garej Shell ym Mhorthaethwy am hanner awr wedi hanner nos.
Dywed yr Arolygydd Gareth Evans i berson lleol gysylltu â nhw ar ôl clywed sgrechfeydd yn dod o’r Fenai tua 3 o’r gloch fore ddoe a bod cyfeillion Joe Hughes wedi dod yn bryderus amdano.
Er gwaethaf ymdrech fawr i chwilio amdano ar dir a môr ac o’r awyr, ni chafwyd hyd iddo, a dywed yr Arolygydd Evans eu bod nhw’n parhau i chwilio.
“Mae hofrennydd yr heddlu wedi bod yn archwilio’r Fenai pan oedd y llanw allan y bore yma, ac rydan ni’n holi ei ffrindiau, ei deulu a busnesau lleol,” meddai.
“Rydan ni’n bryderus iawn amdano fo, ac rydan ni’n apelio unwaith eto ar i unrhyw un yn ardal Porthaethwy yn ystod oriau mân bore Mawrth, yn enwedig rhwng y garej Shell a Phont y Borth i ddod aton ni os gwelson nhw unrhyw beth anghyffredin neu ddyn ifanc sy’n cyfateb i’r disgrifiad canlynol:
“Tenau o ran corff, gwallt du, llawer o frychni ar ei wyneb ac yn gwisgo crys du a gwyn a jîns llwyd.”
Dylai unrhyw â gwybodaeth alw Heddlu’r Gogledd ar 101 neu 0845 6071001.