Mae pump o eithafwyr Islamaidd wedi cael eu dal wrth iddyn nhw gynllwynio i lofruddio staff y papur newydd a argraffodd gartwnau o’r proffwyd Mohamed yn Nenmarc.
Roedd yn dynion yn bwriadu saethu a lladd cymaint ag oedd yn bosibl o bobl yn swyddfeydd papur newydd y Jyllands-Posten yn Copenhagen.
Cafodd pedwar dyn eu harestio mewn dau gyrch gan wasanaethau cudd Denmarc ym maestrefi Copenhagen, a chafodd eu harfau eu cipio. Fe wnaeth heddlu Sweden hefyd arestio dyn o dras Tunisaidd sy’n byw yn Stockholm.
“Mae ymosodiad a oedd ar fin digwydd wedi cael ei rwystro,” meddai Jakob Scharf, pennaeth gwasanaethau cudd Denmarc. Disgrifiodd y rhai sydd dan amheuaeth fel “Islamwyr milwriaethus gyda chysylltiadau â rhwydweithiau terfysg rhyngwladol” a dywedodd y gallai rhagor gael eu harestio.
Mae’r pedwar dyn yn wynebu cyhuddiadau cychwynnol o geisio cyflawni gweithred derfysgol, ac fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron llys yfory.
Mae o leiaf bedwar cynllwyn wedi bod i ymosod ar Jyllands-Posten neu ar Kurt Westergaard, yr artist a wnaeth y cartŵn dadleuol o Mohamed ers i’r papur newydd ei gyhoeddi yn 2005.
Llun: Copenhagen (o wefan Wikipedia)