Fe fu cynnydd o 40% yn nifer yr achosion o ffliw yng Nghymru a Lloegr yr wythnos ddiwethaf, yn ôl meddygon.
Dywed Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu fod achosion o ffliw yng Nghymru a Lloegr wedi cyrraedd 124.4 i bob 100,000 o boblogaeth yn yr wythnos yn diweddu 26 Rhagfyr.
Mae hyn yn cymharu â 85.5 i bob 100,000 yr wythnos gynt.
Yn ôl y meddygon, roedd y cynnydd y amlwg ym mhob grŵp oedran ac eithrio plant ysgol, gyda chynnydd sylweddol yn y grwpiau oedran 45-64.
Eto i gyd, mae’r cynnydd yn dal yn is na lefelau epidemig ar hyn y bryd – lefelau sy’n cael eu diffinio gan arbenigwyr fel 200 o achosion i bob 100,000 o boblogaeth.