Mae wyth o bobl ddigartref wedi llosgi i farwolaeth mewn hen warws lle’r oedden nhw’n llochesu dros nos yn New Orleans.
Dywed ymladdwyr tân mai hwn oedd y tân gwaethaf yn y ddinas ers degawdau.
Gan fod y cyrff wedi llosgi mor ddrwg, mae’n amhosib eu hadnabod yn swyddogol, ond dywed cyfeillion a lwyddodd i ddianc o’r tân fod y rhai fu farw’n gerddorion ac yn artistiaid dawnus.
Fe ddigwyddodd y tân mewn rhan o’r ddinas sy’n llawn adeiladau gwag ar ôl dinistr corwynt Katrina yn 2005. Roedd y lle’n wenfflam o fewn munudau a’r cyfan sydd ar ôl o’r warws yw sylfaen a chragen fetel.
Dywedodd Linda Gonzales o’r elusen New Orleans Mission fod digartrefedd yn broblem sydd wedi gwaethygu yn y ddinas ers corwynt Katrina ac y gall hyd at 3,000 o bobl fod allan ar y strydoedd ar unrhyw noson.
Llun: New Orleans (o wefan Wikipedia)