Mae 114 o Aelodau Seneddol Llafur wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch dros bleidlais Na yn y refferendwm ar newid y drefn bleidleisio i Dŷ’r Cyffredin.
Dywed trefnwyr yr ymgyrch No2AV fod cefnogaeth bron i hanner yr Aelodau Seneddol Llafur yn arwydd clir o wrthwynebiad eu plaid i newid y system cyntaf heibio i’r postyn.
Mae arweinydd Llafur, Ed Miliband, yn cefnogi newid i’r system bleidlais amgen (AV) – a oedd yn un o addewidion maniffesto’r blaid Lafur. Mae’n bosibl y bydd yn ymgyrchu ochr yn ochr â’r Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg dros yr ymgyrch ‘Ie’ yn y refferendwm ym mis Mai y flwyddyn nesaf.
Fodd bynnag, fe fydd gan yr Aelodau Seneddol bleidlais rydd ar y mater, ac mae pum aelod o gabinet yr wrthblaid ymysg y rhai sy’n datgan cefnogaeth i’r ymgyrch Na.
Ffigurau blaenllaw
Roedd rhai o ffigurau blaenllaw’r blaid eisoes wedi datgan eu gwrthwynebiad i newid y system bleidleisio, gan gynnwys Margaret Beckett, John Prescott, David Blunkett, John Reid a’r Arglwydd Falconer.
Fe fyddan nhw’n ymgyrchu gyda Thorïaid blaenllaw fel yr Ysgrifennydd Cartref William Hague, yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Ken Clarke a’r cadeirydd y Farwnes Warsi dros bleidlais Na ar Fai 5.
“Mae’r mater yma’n bwysicach na gwleidyddiaeth plaid,” meddai Joan Ryan, dirprwy gyfarwyddwr yr ymgyrch No2AV, sy’n gyn-aelod seneddol Llafur.
“Mae’r Blaid Lafur wedi dweud bod Aelodau Seneddol, cynghorwyr ac aelodau cyffredin yn rhydd i benderfynu trostyn nhw eu hunain. Rydyn ni’n falch o weld cymaint o aelodau seneddol o bob rhan o’r blaid yn unedig yn eu bwriad i bleidleisio Na ac rydyn ni’n hyderus y bydd llawer o gefnogwyr Llafur yn eu cefnogi nhw.”
Roedd sicrhau’r refferendwm yn un o’r consesiynau allweddol a gafodd eu hennill gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y trafodaethau i ffurfio’r glymblaid gyda’r Ceidwadwyr.